[home]
    | Adref | Amdanom ni | Cyngherddau | Adolygiadau | Cywaith | Cysylltu a ni
  Am y Clwb
 + Adref
 + Amdanom ni
    - Hanes
    - Cyfarfod
    - Trefniadaeth
    - Cyngherddau
 + Cyngherddau
 + Adolygiadau
 + Cywaith
 + Cysylltu a ni

Ymunwch a'r
Clwb 100 newydd
gwelch yma am fyw o fanylion

See this page in English?

Cyflwyniad

Mae Dolgellau, tref farchnad ddeniadol (pob. 3,000) wrth droed Cader Idris yn Eryri, yn falch o'i bywyd diwylliannol bywiog, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Ac mae Clwb Cerdd Dolgellau wedi dod yn rhan gynyddol bwysig yn y diwylliant hwn, ac mae llawer o bobl yn edrych ymlaen yn eiddgar at y cyfresi o gyngherddau y gellir tanysgrifio iddynt a gynhelir pan fo'r dyddiau yn byrhau.

Gorchwyl y Clwb yw i gyflwyno cyngherddau o safon uchel ac o gynnwys amrywiol, clasurol gan mwyaf, ond gyda pheth elfen o ganu gwerin/jazz/ethnig. Mae hefyd yn trefnu gweithdai cysylltiol â rhai o'r cyngherddau, ar gyfer ieuenctid yn fwyaf arbennig ond gyda chyfleon i oedolion yn ogystal. Yn ychwanegol at hyn ceir anerchiad blynyddol i egluro eitemau cerddorol un cyngerdd penodol. Trwy hyn oll fe gyfoethogir mwynhad a deallusrwydd cerddorol y gymuned.

Pobl o statws proffesiynol uchel yw'r perfformwyr a wahoddir i'r Clwb, llawer ohonynt yn fyd-enwog - pianyddion megis John Leneham, Allan Schiller ac Angela Brownridge yn esiamplau a ddônt i'r cof. Cychwyn ar eu gyrfa y mae rhai, ac ânt ymlaen i ennill enwogrwydd yn fuan wedi iddynt ymddangos ar lwyfan y Clwb. Esiampl nodedig o hynny yw'r Pedwarawd Belcea, a ddaethant i berfformio yn Nolgellau yn Chwefror 1999 (pan gyflwynwyd perfformiad gwefreiddiol o 3ydd Pedwarawd Llinynnol Bartok), ac eisoes gwelir fod y pedwarawd yma ymysg y rhai mwyaf poblogaidd ym Mhrydain.

Hyderwn y byddwch yn cael y wefan hon yn ddiddorol ac o gymorth ichwi, pe byddech un ai â rhesymau proffesiynol i sgrolio trwyddi fel perfformydd, hyrwyddwr neu asiant, neu pe byddech yn unig yn hoff o gerddoriaeth, neu yn ymwelydd â'r ardal ac yn edrych am rhywbeth a fyddai yn apelio atoch.

Hawlfraint © 2010 Clwb Cerdd Dolgellau Music Club.
Bob aseiniad hawlfraint.