Croeso i Glwb Cerdd Dolgellau
Cynigir darpariaeth ddiwylliannol amhrisiadwy gan Glwb Cerdd Dolgellau i drigolion y dre yn ystod misoedd y gaeaf, ac mae hefyd yn ganolfan boblogaidd gan y cerddorion a wahoddir i berfformio.
Cyngherdd nesaf: 8 Hydref, 2010 Cantorion Sirenian Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Mae'r safle mewn ardal o harddwch naturiol anghymarol. Mae hefyd yn cynnig ansawdd o brofiadau cerddorol a werthfawrogir yn fawr iawn gan y datgeinwyr a'r gwrandawyr fel ei gilydd. Fel y dywedwyd yn ddiweddar gan un aelod ar derfyn cyngerdd cerddoriaeth siambr: "ar ôl y cyngerdd yna 'roedd hyd yn oed fy CDs gorau yn blasu fel brechdanau o dorth o fara tafellog..."
Hyderwn y byddwch yn mwynhau ymweld â'r tudalennau hyn, ac y byddwch yn awyddus i ymuno â ni os nad ydych eisoes yn un ohonom. (Darperir cyhoeddusrwydd wedi ei ddiweddaru yn Y Dydd neu'r Cambrian News, gwefan http://www.cambrian.net). Edrychwn ymlaen i'ch croesawu.
|